Cynorthwyydd Cefnogi
Gwasanaethau Proffesiynol Prifysgol Caerdydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod Gynorthwyydd Cefnogi ymuno â Gwasanaethau Proffesiynol Prifysgol Caerdydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth gweinyddol a chlerigol cynhwysfawr i ddarpariaeth Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Mae'r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos), yn gyfnod sefydlog tan 31 Gorffennaf 2027 ac mae ar gael yn syth.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), gweithio cyfunol (sy'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o'ch amser), cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr Cyflog Byw balch.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â t Mrs Anna Jones, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Caerdydd - [email protected].
Gellir anfon ymholiadau annffurfiol mewn perthynas 'r broses recriwtio/ ymgeisio at [email protected].
Cyflog: £25,754 - £26,615 y flwyddyn (Gradd 3). Rydym yn rhagweld y bydd y swydd hon yn dechrau ar waelod y raddfa.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2026
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.