The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.
Swyddog Gweinyddol Dysgu Cymraeg Caerdydd
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i reoli tîm gweinyddol Dysgu Cymraeg Caerdydd. Mae'r ddarpariaeth yma yn cynnig gwersi Cymraeg i Oedolion ar draws y rhanbarth. Bydd deiliad y swydd yn rheoli tîm o staff gweinyddol a chynnig gwasanaeth gweinyddol llawn gan gynnwys trefnu a dirprwyo gwaith, rheoli perfformiad a sicrhau bod y tîm yn cwrdd â gofynion y cwsmer o fewn telerau’r cytundebau a enillwyd.
Mae'r swydd yma yn llawn amser am gyfnod penodol, hyd at 31 Gorffennaf 2027. Os ydych am drafod y swydd mewn rhagor o fanylder, mae croeso ichi gysylltu gydag Anna Jones, [email protected]
Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 16 Gorffennaf 2026
Dyddiad cau: Dydd Llun, 27 Gorffennaf 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.