Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.
The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Tiwtor Dysgu Cymraeg Caerdydd
Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn chwilio am diwtor brwdfrydig i ymuno a thîm sydd yn darparu rhaglen dysgu o'r safon uchaf. Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel ar ac yn cynnig ystod o gyrsiau gwahanol, gan gynnwys cyrsiau wythnosol, dwys, bloc a phreswyl, gweithle a chyrsiau e-ddysgu. Bydd deiliad y swydd yn dysgu ar bob lefel, o gyn-fynediad i hyfedredd ac yn dysgu cyrsiau prif ffrwd yn bennaf.
Mae'r swydd yma yn llawn amser ac am gyfnod penodol o 1 Awst 2026 hyd at 31 Gorffennaf 2027. I drafod y swydd mewn rhagor o fanylder, mae croeso ichi gysylltu ag Anna Jones, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Gradd 5)
Dyddiad cau: Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2026
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.