The ability to speak Welsh is essential for this role.
Cydymaith Addysgu
Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am Gydymaith Addysgu brwdfrydig i ymuno â thîm sy'n anelu at ragoriaeth mewn addysgu er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o raddedigion Cymraeg. Byddwch yn cyfrannu at fodiwlau israddedig, gan ymgymryd â gwaith paratoi a chyflwyno modiwlau ar iaith a/neu lenyddiaeth (sydd eisoes wedi’u cynllunio), cyfrannu at waith asesu, darlithio a chynnal seminarau, tiwtorialau a gwaith grŵp. Mae’n gyfle gwych i ennill profiad dysgu ym myd Addysg Uwch, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ôl-raddedig neu rai sydd newydd ennill gradd ddoethuriaeth, neu athrawon profiadol sy’n chwilio am gyfle newydd. Bydd gennych wybodaeth eang am y Gymraeg a’i diwylliant, a brwdfrydedd dros ddysgu eraill.
Mae'r swydd hon yn rhan amser, 4 diwrnod yr wythnos (28 awr), ac am gyfnod penodol o 6 mis rhwng Ionawr a Mehefin 2027. Os ydych am drafod y swydd mewn rhagor o fanylder, mae croeso ichi gysylltu â Dr Siwan Rosser neu Dr Dylan Foster Evans.
Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn, pro-rata (Gradd 5)
Mae Ysgol y Gymraeg yn ysgol groesawgar a llewyrchus sydd ar y brig yn y Times Good University Guide ar gyfer Astudiaethau Celtaidd. Rydym yn falch o fod yn gartref cefnogol i staff academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol sydd yn darparu profiad rhagorol i'n cymuned arbennig o fyfyrwyr.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 24 Mehefin 2026
Dyddiad cau: Dydd Sul, 12 Gorffennaf 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.